Deuteronomy 8

Peidiwch anghofio.

1“Rhaid i chi gadw'r gorchmynion yma dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Os gwnewch chi hynny, cewch fyw, bydd eich niferoedd chi'n tyfu, a chewch fynd i mewn i'r wlad wnaeth yr Arglwydd addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi.

2“Peidiwch anghofio'r blynyddoedd dych chi wedi eu treulio yn yr anialwch. Roedd yr Arglwydd yn eich dysgu chi a'ch profi chi, i weld os oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e'n ddweud. 3Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda'r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn!) Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae'r Arglwydd yn ei ddweud. 4Am bedwar deg o flynyddoedd wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo.

5“Dw i eisiau i chi ddeall fod yr Arglwydd eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni yn disgyblu eu plentyn. 6Felly gwnewch beth mae e'n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a'i barchu. 7Mae'r Arglwydd eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy'n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau. 8Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd. 9Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i'w cloddio o'r tir – haearn a chopr. 10Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a byddwch yn moli'r Arglwydd eich Duw am roi gwlad mor dda i chi.

11“Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r Arglwydd, ac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw. 12Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw, 13mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur – yn wir, digon o bopeth – 14gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r Arglwydd eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. 15Daeth yr Arglwydd a chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych lle doedd dim dŵr, ond dyma'r Arglwydd yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed. 16Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd. 17Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’ 18Cofiwch mai'r Arglwydd eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi. Os cofiwch chi hynny, bydd e'n cadarnhau yr ymrwymiad wnaeth e ar lw i'ch hynafiaid chi. Mae wedi gwneud hynny hyd heddiw.

19“Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi – os gwnewch chi anghofio'r Arglwydd, a mynd ar ôl duwiau eraill i'w haddoli nhw, bydd e'n eich dinistrio chi! 20Bydd yr un peth yn digwydd i chi ag sy'n mynd i ddigwydd i'r gwledydd dych chi ar fin ymladd yn eu herbyn nhw.

Copyright information for CYM